Wednesday, 9 March 2011

Wales gets volunteering boost

Volunteering in Wales has been given a boost with confirmation that a leading grant scheme has been extended to 2012.

WCVA’s Volunteering in Wales Fund has received continued support from the Welsh Assembly Government meaning that organisations will be able to apply for funding to support projects for the next year.

The Fund can offer grants of up to £25,000 to support and develop new volunteers through covering the cost of the volunteer expenses and training; contributions to organisations’ running costs and the recruitment of specialist staff to help support new volunteers.

The deadline to make a grant application is Friday 15 April 2011.

The Fund is currently supporting a diverse range of charities ranging from Women Connect First, Home-Start St Mellons, Pedal Power and Crest Cooperative to Menter Y Felin Uchaf, while helping to widen access to volunteering for under-represented groups.

Mark Bendon, Senior Grant Assessor for the Fund said: ‘We are delighted that the funding has been agreed – the Volunteering in Wales Fund makes a real difference to so many charities in Wales and such a wide-ranging number of charities.

‘These organisations rely on volunteers who need training and support so that they can offer maximum support to their communities and service users.

‘The Fund is helping to ensure that there is professional support for these volunteers. Increasingly many of the organisations we fund offer accredited training and there are numerous examples of volunteers finding employment as a result of their volunteering.

‘In the last year alone, the scheme has helped recruit over 2,000 new volunteers who have contributed more than 200,000 hours to the benefit of Welsh communities.

‘This work would otherwise cost over £3m in economic terms.

‘Demand is always high for this grant and we carefully consider the outputs likely to be achieved by supported groups.

‘Additionally, we encourage applications that support the recruitment of volunteers from the following groups: 16-25 years; 50 years plus; people with disabilities; BME groups and unemployed people.

For further details and an application pack, contact the WCVA Helpdesk on 0800 2888 329 or email help@wcva.org.uk.


Hwb i wirfoddoli yng Nghymru

Cafodd gwirfoddoli yng Nghymru hwb wrth glywed bod cynllun grant blaenllaw wedi cael ei ymestyn tan 2012.

Mae Cronfa Gwirfoddoli yng Nghymru WCVA wedi derbyn cefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n golygu y bydd mudiadau yn gallu gwneud cais am nawdd i gefnogi prosiectau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gall y Gronfa gynnig hyd at £25,000 i gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr newydd drwy dalu am gost hyfforddiant a threuliau gwirfoddolwyr, cyfrannu at gostau rhedeg mudiadau a recriwtio staff arbenigol i helpu i gefnogi gwirfoddolwyr newydd.

Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais am grant yw dydd Gwener 15 Ebrill 2011.

Ar hyn o bryd, mae’r Gronfa’n cefnogi amrywiaeth helaeth o elusennau’n amrywio o Women Connect First, Home-Start Llaneirwg, Pedal Power a Chydweithfa’r Crest i Fenter y Felin Uchaf, tra ar yr un pryd agor drws gwirfoddoli i grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n deg.

Dywed Mark Bendon, Uwch Asesydd Grantiau’r Gronfa: ‘Rydym wrth ein bodd bod y nawdd wedi’i gadarnhau – mae’r Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o elusennau yng Nghymru ac elusennau mor wahanol eu naws.

‘Mae’r mudiadau hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr y mae angen hyfforddiant a chefnogaeth arnynt er mwyn iddynt gynnig cymaint o gefnogaeth ag y bo modd i’w cymunedau a’u defnyddwyr gwasanaeth.

‘Mae’r Gronfa yn helpu i sicrhau bod yna gefnogaeth broffesiynol ar gael i’r gwirfoddolwyr hyn. Mae mwy a mwy o’r mudiadau a noddwn yn cynnig hyfforddiant achrededig, ac mae yna enghreifftiau lu o wirfoddolwyr yn dod o hyd i waith cyflogedig yn sgil eu gwaith gwirfoddol.

‘Y llynedd yn unig, mi helpodd y cynllun i recriwtio dros 2,000 o wirfoddolwyr newydd sydd wedi cyfrannu dros 200,000 o oriau er budd cymunedau Cymru.

‘Byddai’r gwaith hwn, fel arall, wedi costio rhagor na £3m mewn termau economaidd.

‘Mae galw mawr am y grant yma bob amser ac rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r canlyniadau y mae’r grwpiau a gefnogir yn debygol o’u cyflawni.

‘Ar ben hynny, rydym yn annog ceisiadau sy’n cefnogi recriwtio gwirfoddolwyr o’r grwpiau canlynol: pobl ifanc 16-25 oed; pobl 50 oed a drosodd; pobl ag anableddau; grwpiau BME a phobl ddi-waith.

I gael mwy o fanylion a phecyn ymgeisio, cysylltwch â Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu anfonwch e-bost at help@wcva.org.uk

No comments:

Post a Comment